Croeso i Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru.  

Fe gyllidir RhYPPI gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhan o Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru.

Fe fydd y Rhwydwaith yn dod yn un o 17 o Grwpiau Ymchwil Cofrestredig, a sefydlwyd i hyrwyddo ymchwil a datblygu.  Fe fydd y Rhwydwaith yn cael ei gyllido am 5 mlynedd o’r 1af o Ebrill, 2010.

Amcanion:

  • Cydlynu a hwyluso’r gwaith o gyflawni astudiaethau ymchwil iechyd ar raddfa fawr ar gyfer plant a phobl ifanc fydd yn hysbysu polisi ac arferion fel y mae’n datblygu. 

  • Cydlynu a hwyluso’r gwaith o gyflawni astudiaethau ymchwil ar raddfa fawr fydd yn trosi gwyddoniaeth sylfaenol i fod yn ffyrdd o gymorth iechyd plant a phobl ifanc. 

  • Lledu cwmpas a chynhwysedd adnoddau iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn cynnwys cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y broses ymchwil. 

  • Cynorthwyo i nodi a datblygu ymchwil newydd i iechyd plant a phobl ifanc. 

  • Codi safon ymchwil iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc o fewn Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
     

 


Terms of Use Welsh Assembly CIW logo NISCHR CRC logo Terms of Use